Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2013

Hawl mynediad

Daeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i rym ar 1 Ionawr 2005. Mae'n effeithio ar bob awdurdod cyhoeddus ac yn rhoi hawl i chi (oni bai bod eithriad yn berthnasol) i:

  • cael gwybod os cedwir gwybodaeth
  • cael y wybodaeth honno

Mae'r term 'awdurdod cyhoeddus' yn cynnwys y rhan fwyaf o sefydliadau cyhoeddus ac adrannau'r llywodraeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (mae gan yr Alban eu Deddf eu hunain), ac mae hefyd yn ein cynnwys ni, rheoleiddiwr pensiynau seiliedig ar waith yn y DU.

Y Comisiynydd Gwybodaeth sy'n gyfrifol am oruchwylio'r Ddeddf (ynghyd â Deddf Diogelu Data 1998). Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i ni a phob awdurdod cyhoeddus arall:

  • mabwysiadu a chynnal 'cynllun cyhoeddi'
  • cadarnhau neu wrthod (pan ofynnir amdano) a yw'r wybodaeth yn cael ei chadw ai peidio
  • darparu'r wybodaeth honno (neu esbonio pam na chaiff ei darparu) o fewn 20 diwrnod gwaith

Bydd y rhan fwyaf o geisiadau am wybodaeth yn rhad ac am ddim, er y gallwn weithiau godi tâl am gost bostio neu lungopïo.

Beth yw cynllun cyhoeddi?

Prif bwrpas cynllun cyhoeddi yw sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn rhwydd heb fod angen ceisiadau ysgrifenedig penodol. Mae ein cynllun cyhoeddi yn esbonio:

  • y dosbarthiadau o wybodaeth yr ydym eisoes yn eu cyhoeddi neu'n bwriadu eu cyhoeddi
  • sut y byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth (er enghraifft, ar ein gwefan)
  • p'un ai a fyddwn yn codi tâl am y wybodaeth ai peidio

Nid yw'n rhestr lawn o'n cyhoeddiadau gan fod y rhestr yn newid ac rydym yn diweddaru cyhoeddiadau yn rheolaidd.

Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cymeradwyo ein cynllun cyhoeddi ac mae ar gael ar ein gwefan. Mae hefyd ar gael, yn rhad ac am ddim, mewn fformatau eraill — mewn print bras, Braille neu iaith arall.

Beth am wybodaeth nad yw wedi'i rhestru yn y cynllun cyhoeddi?

Ni fydd yr holl wybodaeth a gofnodir sydd gennym yn cael ei chynnwys yn ein cynllun cyhoeddi. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu nad yw ar gael, felly gwnewch gais ysgrifenedig am y wybodaeth rydych ei heisiau. Gellir cofnodi'r wybodaeth ar unrhyw ffurf — er enghraifft, papur, e-bost neu electronig — a gall ddod o unrhyw ffynhonnell, nid dim ond dogfennau a gyhoeddwyd gennym ni.

Sut ydw i'n gofyn am wybodaeth?

  • Dylech ofyn am wybodaeth yn ysgrifenedig (llythyr, e-bost neu ffacs).
  • Bydd angen i chi ddisgrifio'r wybodaeth rydych chi ei heisiau i'n helpu i'w hadnabod, ei chanfod a'i darparu ar eich cyfer, ond nid oes rhaid i chi ddweud wrthym pam rydych chi ei eisiau ac ni fyddwn yn gofyn.

E-bostiwch foi@thepensionsregulator.gov.uk neu ewch i'n tudalen Rhyddid Gwybodaeth.

Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth gan:

Y Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Tŷ Wycliffe
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

0303 123 1113

E-bostiwch casework@ico.org.uk neu ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Beth fyddwch chi'n ei wneud gyda'm cais?

  • Pan fyddwn yn derbyn eich cais, byddwn fel arfer yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith.
  • Byddwn yn dweud wrthych a oes angen i chi dalu ffi (os oes ffi, mae'n rhaid i chi ei thalu cyn i ni anfon y wybodaeth).
  • Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwn yn cadarnhau a ydym yn cadw'r wybodaeth rydych ei heisiau ai peidio.
  • Byddwn yn gofyn i chi pa fformat y byddai'n well gennych i ni ddarparu'r wybodaeth ynddo.
  • Os nad ydym yn cadw'r wybodaeth, byddwn yn dweud wrthych pwy sy'n gwneud hynny (os ydym yn gwybod).
  • Os penderfynwn beidio â darparu'r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani, byddwn yn dweud wrthych pam.
  • Os oes oedi, byddwn yn dweud wrthych pam ac yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwch ddisgwyl derbyn y wybodaeth, neu byddwn yn egluro pam na fyddwn yn ei darparu.

Allwch chi atal gwybodaeth?

Er bod y Ddeddf yn cefnogi polisïau cenedlaethol i foderneiddio'r llywodraeth ac annog didwylledd, mae rhai eithriadau. Er enghraifft, efallai y byddwn yn atal gwybodaeth os:

  • ni chaniateir i ni ei rhyddhau o dan ddeddfwriaeth arall neu byddai'n ddirmyg llys pe byddem yn ei rhyddhau
  • mae'n gyngor cyfreithiol
  • fe'i darparwyd yn gyfrinachol neu fe'i dosbarthir fel data personol o dan Ddeddf Diogelu Data 1998
  • bydd yn cael ei chyhoeddi yn y dyfodol
  • mae eisoes ar gael yn rhesymol i chi o ffynhonnell arall
  • Byddai'n effeithio ar unrhyw un o'n hymchwiliadau

Efallai y byddwn yn:

  • gwrthod ceisiadau gan unrhyw un sy'n gofyn dro ar ôl tro am yr un wybodaeth neu wybodaeth debyg iawn
  • cadw gwybodaeth yn ôl lle mae'r gost o'i rhyddhau yn fwy na £450 hyd yn oed os ydych yn fodlon talu'r costau llawn wrth ddelio â'r cais (er y byddwn yn darparu gwybodaeth hyd at y gost honno)
  • mewn rhai achosion, peidio â dweud wrthych a ydym yn cadw'r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani

Weithiau, efallai y bydd angen mwy nag 20 diwrnod gwaith arnom i ddod o hyd i wybodaeth a phenderfynu a allwn ei rhyddhau ai peidio. Os felly, byddwn yn ymateb i chi o fewn 20 diwrnod o dderbyn eich cais i roi gwybod i chi y bydd yn cymryd mwy o amser i ni ddelio ag ef. Byddwn yn ceisio dweud wrthych pryd y byddwn yn disgwyl gallu ymateb yn llawn.

Beth os nad ydw i'n fodlon ar y ffordd rydych chi wedi delio â'm cais?

Gallwch ofyn am adolygiad mewnol drwy ysgrifennu (llythyr, e-bost neu ffacs) at ein hysgrifennydd corfforaethol yn y Rheoleiddiwr Pensiynau (gweler sut i gysylltu â ni).

Byddwn naill ai'n ymateb yn llawn i'ch cwyn o fewn 20 diwrnod gwaith neu'n rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y gallwn os ydym yn disgwyl cymryd mwy o amser na hyn.

Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb o hyd, gallwch gwyno i'r Comisiynydd Gwybodaeth.